This Page is also available in English.
Cafodd Ymchwil Canser Cymru (CRW), sef Cyngor Ymchwil Canser De Cymru gynt, ei sefydlu fel elusen gofrestredig (Rhif 248767) ym 1966. Rydyn ni'n cefnogi cynlluniau ymchwil ar hyd a lled Cymru, yn benodol mewn canolfannau radiotherapi a chemotherapi. Caiff yr arian a godir yng Nghymru ei wario yng Nghymru, er mwyn i gleifion canser lleol gael y buddiannau cychwynnol o ddatblygiadau mewn triniaeth a phrognosis.
Rhedir Ymchwil Canser Cymru yn bennaf gan weithwyr proffesiynol yn wirfoddol, ac y mae'n elusen sy'n cael ei rhedeg yn eithriadol o effeithlon: mae 96% ar gyfartaledd o'r arian a roddwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf wedi ei wario'n uniongyrchol ar waith ymchwil, a 4% yn unig ar gostau gweinyddu.
Mae canolfan Ymchwil Canser Cymru yn y Gwasanaeth Oncoleg Clinigol yn Ysbyty'r Felindre, sy'n rhan o Ymddiriedolaeth GIG y Felindre, lle caiff dros 4,000 o gleifion canser newydd eu trin bob blwyddyn. At hynny, caiff tua 50,000 o gleifion allanol eu gweld gan arbenigwyr canser yn Ysbyty'r Felindre a chlinigau ar hyd a lled De Ddwyrain Cymru.
Yn Ysbyty'r Felindre mae 98 o welyau a dros 250 o staff sy'n trin cleifion o bob rhan o Dde Cymru. Mae Ysbyty'r Felindre yn darparu gwasanaeth o safon. Mae ar flaen y gad yn y gwaith o drin canser ac mae'n flaenllaw yn y gwaith o arloesi gyda dulliau therapi newydd. Bydd CRW ac Ymddiriedolaeth GIG y Felindre yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod arian a roir ar gyfer gwaith ymchwil i ganser yn cael ei wario'n ddoeth a bod yr arian sy'n cael ei godi yng Nghymru yn cael ei wario yng Nghymru.
Yn ychwanegol at y gwaith ymchwil yn Ysbyty'r Felindre, mae CRW hefyd yn cefnogi gwaith ymchwil yn yr adrannau Radiotherapi yn Abertawe a Gogledd Cymru.
Mae ein Cyngor Ymchwil yn cynnwys Cadeirydd, sef Dr D K L Davies OBE, a deuddeg aelod sydd i gyd yn rhoi eu gwasanaeth yn wirfoddol. Mae yna ddau is-bwyllgor parhaol: y Pwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol a'r Pwyllgor Cyllid. Caiff yr holl geisiadau am gynlluniau ymchwil canser a dderbynnir gan Ymchwil Canser Cymru eu harchwilio'n gyntaf gan y Pwyllgor Ymgynghorol Gwirfoddol ac yna c�nt eu hanfon at arolygwyr allanol i'w hasesu. Y cynlluniau a gaiff raddfa ALPHA yn unig sy'n cael arian. Mae gradd ALPHA yn dynodi bod cynlluniau ar flaen y gad mewn ymchwil canser ac y byddant yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu triniaeth neu phrognosis cleifion canser yn y dyfodol. Yn anffodus, does dim digon o adnoddau byth i ariannu'r holl gynlluniau graddfa ALPHA, ac o reidrwydd, rhaid i'r Cyngor osod blaenoriaethau. Rhagor o incwm yw'r unig ffordd i sicrhau gallu cefnogi pob cynllun haeddiannol.
Cliciwch yma i gael rhestr o Aelodau'r Cyngor neu Staff/Graddedigion sy'n gwneud gwaith ymchwil.
[ Cartref ] [ Home ] [ Beth rydyn ni'n ei wneud? ] [ What do we do? ]