Mae Cyfansoddiad Ymchwil Canser Cymru bob amser wedi dweud ein bod yn bodoli i ddarparu "cyfleusterau ar gyfer ymchwil canser i Radiotherapi a Chemotherapi yng Nghymru."
Rydyn ni'n cefnogi gwaith ymchwil i fioleg moleciwlaidd, astudiaethau trosglwyddo a modyliad genynnau fel y mae hynny'n gymwys i ganser, a phrofion clinigol ar ddulliau therapi newydd. Rydyn ni'n darparu cyfarpar soffistigedig mewn labordy pwrpasol lle bydd clinigwyr, gwyddonwyr ac eraill yn gweithio gyda'i gilydd. Bydd ymchwiliadau mewn labordy'n nodi dulliau therapi newydd, a bydd profion clinigol a wneir gan arbenigwyr canser yn sicrhau symud yn gyflym o'r syniad i'r therapi.
Dydy cynlluniau ymchwil canser a gefnogir gan CRW ddim yn golygu profion ar anifeiliaid. Mae'r cynlluniau ymchwil canser i gyd yn seiliedig naill ai ar (a) gelloedd tyfiant o samplau biopsi neu rai sydd wedi eu tyfu fel 'meithriniad celloedd', (b) cadw llygad ar gemegau yng ngwaed cleifion neu feinwe arall, ac (c) elfennau is-gellol fel DNA o gelloedd normal a chelloedd canser. Mae'r ymchwiliadau i gyd yn cynnwys arbenigwyr, gwyddonwyr, technegwyr, nyrsys, ac yn y blaen, i sicrhau mai lles cleifion yw'n prif nod bob amser.
Mae Ymchwil Canser Cymru wedi gwario dros �1.3 miliwn er 1990, ac ym 1995 bydd yn gwario dros �400K yn bennaf ar gynlluniau Ymchwil a Datblygiad yn y Felindre. Mae CRW hefyd yn ariannu gwaith mewn canolfannau canser eraill yng Nghaerdydd, Abertawe a Gogledd Cymru.
Nod Ymchwil Canser Cymru yn y pen draw yw cefnogi gwaith ymchwil yn y labordy ac yn y clinig. A bydd y gwaith ymchwil hwnnw, gobeithio, yn cael ei drosglwyddo'n gyflym i roi canlyniad clinigol gwell. Ymhlith y cynlluniau sy'n cael cefnogaeth ar hyn o bryd mae: (1) t�m o glinigwyr a gwyddonwyr sy'n casglu ac yn dadansoddi data oddi wrth gleifion sydd wedi cael neu sydd ar fin cael triniaeth am Ganser y Fron neu Ganser y Chwarren Brostad, i sicrhau lles i gleifion yn y dyfodol o'r llwyddiannau a'r problemau sydd eisoes wedi eu hwynebu; (2) datblygu cynhyrchion naturiol newydd fel asiantwyr canser, fel Gossypol, a fyddai'n dangos dull newydd o ddelio � therapi canser; (3) astudiaethau gyda Melanoma a chelloedd Canser yr Ysgyfaint i ddeall yn well pam y mae'r tyfiannau hyn yn gallu gwrthsefyll therapi i'r fath raddau; a (4) datblygu a defnyddio profion yn seiliedig ar y labordy i archwilio sut i ladd cell tyfiant, fel y gall y therapi mwyaf effeithiol ac effeithlon yn y dyfodol gael ei ddefnyddio ar gyfer tyfiant unigol.
Cafodd yr holl gynlluniau hyn a nifer o gynlluniau eraill sy'n
cael eu hariannu eu harolygu gan gyfoedion cyn cael ein
cefnogaeth, a byddwn yn parhau i gadw llygad ar y cynnydd i
sicrhau defnyddio'n hadnoddau i'r eithaf.
Mae Ymchwil Canser Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Dwy-Flynedd sy'n
cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y cynlluniau ymchwil sy'n cael
arian ar hyn o bryd, ac adroddiadau manwl am gynlluniau penodol.
Mae copiau o'r adroddiad ar gael oddi wrth yr Athro J L Moore yng
nghyfeiriad CRW.
Byddwn yn cael mwy o geisiadau bob blwyddyn, a byddai adnewyddu'r cyfarpar soffistigedig sydd wedi ei ddarparu gan CRW yn y gorffennol yn golygu bod angen �0.5 miliwn yn y 5 mlynedd nesaf. Ym 1996, adeiladwyd uned ymchwil a thriniaeth cemotherapi wrth ymyl Ysbyty'r Felindre. Bwriadwn hefyd ail-adeiladu'n labordai ymchwil am gost �1.5 miliwn pan fydd adnoddau ar gael drwy ein Hap�l Labordy Newydd.
Mae'r gwaith ymchwil a gefnogir gan CRW yn cwmpasu nifer o ddisgyblaethau gan olygu bod angen gallu troi'n gyflym at y wybodaeth ddiweddaraf. Rydyn ni wedi darparu llyfrgell dda sy'n golygu y gall pob gweithiwr ymchwil droi at wybodaeth am ganser ar hyd a lled y byd. Gellir cysylltu �'r Llyfrgellydd ar +44 (0)1222 615888 neu E-mail: [email protected]
Cliciwch yma am restr o rai o'r Papurau Ymchwil sydd wedi eu hariannu gan CRW.
[Cartref] [Home] [sut allwch
chi helpu?] [Pam mae angen eich
cefnogaeth arnom?]