This page is also available in English.
Mae angen gwirfoddolwyr arnom bob amser i helpu gyda digwyddiadau penodol i godi arian, fel boreau coffi, rafflau yn y gwaith, ac yn y blaen. I'r rheiny sydd � mwy o amser a nod dros gyfnod hir i helpu Ymchwil Canser Cymru, mae yna gyfle i fod yn gyd-gysylltwyr ardal. Bydd y bobl hyn yn gwirfoddoli ac yn annog eraill i fod yn wirfoddolwyr. Dylai unrhyw un sydd � diddordeb mewn helpu Ymchwil Canser Cymru gysylltu �'n swyddfa ar 01222 628291 Est 6283 neu 01222 521609 (24 awr), neu cysylltwch � John Burnet, Cyd-gysylltydd Apelau ar 01222 615888 Est 6211.
Rhoddion o ddigwyddiadau i godi arian yw prif ffynhonnell incwm ein helusen. Isod ceir enghreifftiau o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan wirfoddolwyr ym 1996:
Cysylltch � ni os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad ar ran Ymchwil Canser Cymru.
Cofiwch fod CRW yn gorff effeithlon, sy'n rhoi dros 96% o roddion i gynlluniau ymchwil sydd wedi dod o dan 'arolwg cyfoedion' gan arbenigwyr o ganolfannau canser ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol, ac mai'r cynlluniau hynny ar y raddfa uchaf yn unig sy'n cael eu hariannu. Byddwch cystal ag anfon rhoddion at d/o Y Cadeirydd, Dr D K L Davies, Ymchwil Canser Cymru, Ysbyty'r Felindre, Caerdydd CF4 3XL.
Gobeithio y byddwch yn cyfrannu drwy Roi Wrth Ennill neu Weithred Gyfamod, a gorfodi dyn y Dreth i roi rhodd arall i ni a allai fod cymaint � 40c am bob �1 a rowch chi. Mae ffurflen wedi ei hargraffu ar gyfer gwneud cyfamod ar gael ar y safle hwn, neu gallwch gysylltu � ni ac fe anfonwn un atoch.
| Mae ein Hap�l Labordy Newydd ar hyn o bryd yn codi arian i adnewyddu'n labordai ymchwil sy'n 40 mlwydd oed. Cynhaliwyd hefyd ffair a raffl Ceir Clasurol yn ystod yr haf. Bu'n llwyddiannus iawn a chodwyd dros �8,000 tuag at ein targed o �1.5 miliwn. Os hoffech chi helpu gydag unrhyw ap�l, cofiwch gysylltu � ni. |
[ Cartref ] [ Home ] [ Rhoi Rhodd ] [ Cysylltu � Ni ]